Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dydd Mawrth 15 Hydref a dydd Mercher 16 Hydref 2013
Dydd Mawrth 22 Hydref a dydd Mercher 23 Hydref 2013
Toriad: Dydd Llun 28 Hydref 2013 - Dydd Sul 3 Tachwedd 2013
Dydd Mawrth 5 Tachwedd a dydd Mercher 6 Tachwedd 2013
***********************************************************************
Dydd Mawrth 15 Hydref 2013
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Cyflwyno'r Bil Rheoli Ceffylau (Cymru) (60 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth: Llwyddiant Ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i Gyllido a Hwyluso'r Gwaith o Gyflogi 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol (30 munud)
· Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Bysiau Arriva Cymru (30 munud)
· Dadl ar Adroddiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol: “Gweithio gyda'n gilydd i gryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru - Adolygiad Cymru 2012-13” (60 munud)
· Dadl ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2012-13 (60 munud)
Dydd Mercher 16 Hydref 2013
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
· Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)
· Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Cynnig o dan Reol Sefydlog 10.5 i benodi aelodau a Chadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru (5 munud)
· Cynnig i gytuno ar daliadau aelodau a Chadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru (5 munud)
· Cynnig i ddiwygio RhS18 mewn cysylltiad â Chyfrifon Cyhoeddus ac arolygiaeth Swyddfa Archwilio Cymru (5 munud)
· Cynnig o dan Reol Sefydlog 16.3 i addasu cylch gwaith y Pwyllgor Cyllid (5 munud)
· Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
NNDM5325
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod risg uchel llusernau awyr i ddiogelwch y cyhoedd, i adeiladau a strwythurau, ac i les anifeiliaid fferm a bywyd gwyllt;
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i rinweddau cyfyngu ar ryddhau llusernau awyr yng Nghymru.
· Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar yr Ymchwiliad i weithredu'r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer diabetes yng Nghymru a'i gyfeiriad yn y dyfodol (60 munud)
· Dadl i geisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Arfaethedig Aelod ynghylch Llythrennedd Ariannol (Bethan Jenkins) (60 munud)
· Dadl Fer - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) (30 munud)
Dydd Mawrth 22 Hydref 2013
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth: y Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru (30 munud)
· Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: System Drafnidiaeth Integredig De-ddwyrain Cymru (30 munud) – wedi’i symud o 15 Hydref
· Gorchymyn Diogelwch Tân Domestig (Diffinio Preswylfa) (Cymru) 2013 (15 munud)
· Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Rheoli Ceffylau (Cymru) (60 munud)
· Cynnig i gymeradwyo'r Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Rheoli Ceffylau (Cymru) (5 munud)
· Dadl ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2012-2013 (60 munud)
Dydd Mercher 23 Hydref 2013
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid (45 munud)
· Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)
· Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar yr Ymchwiliad i Addasiadau yn y Cartref (60 munud)
· Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Sefydlu tîm criced cenedlaethol i Gymru (60 mins)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Dadl Fer - Suzy Davies (Gorllewin De Cymru) (30 munud)
Dydd Mawrth 5 Tachwedd 2013
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
· Cwestiynau i'r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Cynnydd o ran Troi tai'n Gartrefi (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi: 'Teithio at Ddyfodol Gwell' - Fframwaith Gweithredu a Chynllun Cyflenwi ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Creu Cymwysterau Cymru (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Y cyfleoedd a'r heriau y mae'r Sector Coedwigaeth yng Nghymru yn eu hwynebu (30 munud)
· Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Gofal (15 munud)
· Dadl: Cymorth i'r Lluoedd Arfog yng Nghymru (60 munud)
Dydd Mercher 6 Tachwedd 2013
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)
· Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Reoli Asedau yn y Sector Cyhoeddus (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Dadl Fer - Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru) (30 munud)